Ionawr 2007
English:
Cymraeg:
Tan 6 Ionawr - Arddangosfa Helfa Gelf yn Llyfrgell Bae Colwyn,
Ffordd Coetir Orllewinol
Tan 27 Ionawr - Arddangosfa: Arthur Bispo do Rosario - yn Oriel
Mostyn, Vaughan Street, Llandudno. Am 50 mlynedd bu Bispo do Rosario yn
creu’r gwrthrychau roedd yn credu eu bod yn werth eu hachub ar Ddydd
y Farn. Mae’r casgliad anhygoel hwn o faneri, siacedi, cerfluniau
a chydosodiadau, bellach yn rhan o dreftadaeth genedlaethol Brasil. Ffôn:
(01492) 879201
Tan 3 Chwefror - Arddangosfa Helfa Gelf yn Llyfrgell Llandudno,
Mostyn Street
1 Ionawr - Taith Gerdded y Cadeirydd, Grwp Cerddwyr Dyffryn Conwy - Cyfarfod
ym Mharc Eirias, Bae Colwyn (SH 856 783) am 10.30am ar gyfer taith gerdded
7 milltir. Ffôn: (01492) 546847
6 a 7 Ionawr - Teithiau Cerdded Tywysedig - Yng Ngwarchodfa Natur
RSPB Conwy o 2pm. Ffôn: (01492) 584091
7 Ionawr - Dawnsio Morris yn Nhafarn y Lion, Gwytherin. Gyda
‘Clerical Error’ a Dawnswyr Morris ‘Eryri’ o hanner
dydd. Ffôn: (01745) 860123
13 a 14 Ionawr - Arddangosiad Optegol - Yng Ngwarchodfa Natur
RSPB Conwy rhwng 10am a 5pm. Ffôn: (01492) 584091
20 Ionawr i 11 Chwefror - Arddangosfa RCA Ivor Davies - yn yr
Academi Frenhinol Gymreig, Crown Lane, Conwy. Arddangosfa syfrdanol ac
unigryw o baentiadau gan un o arlunwyr amlycaf Cymru, yn archwilio hanes
swynol mawrion gorffennol Cymru. Ffôn: (01492) 593413
22 Ionawr - Cogydd Iau Cymru Rownd Derfynol Ranbarthol Gogledd
Cymru - yng Ngholeg Llandrillo Cymru, Llandrillo-yn-Rhos rhwng 10am a
1pm. Croeso i bawb wylio. Ffôn: (01492) 546666
27 Ionawr - Sgwrio’r Tywod - ar Draeth Pensarn. Mynd ati
fel lladd nadroedd i lanhau’r traeth gyda’r amcan o glirio
sbwriel o’r safle o fewn yr amser byrraf erioed. Mae gwobr ar gyfer
yr unigolyn sy’n casglu’r domen fwyaf o sbwriel! Darperir
cyfarpar casglu sbwriel. Cyfleusterau caffi gerllaw. Cyfarfod ym maes
parcio traeth Pensarn (SH 943 786) am 2pm. Ffôn: (01492) 575200
(yn ystod oriau swyddfa)
27 Ionawr - Digwyddiad i’r Teulu - Yng Ngwarchodfa Natur
RSPB Conwy rhwng 2pm a 4pm. Ffôn: (01492) 584091
27 a 28 Ionawr - Yr RSPB yn cynnal eu 28ain Gwylfa Adar yr Ardd.
Treuliwch awr yn gwylio’r adar yn eich gardd neu barc lleol a chofnodwch
yr hyn rydych yn ei weld. Bydd y canlyniadau’n rhoi syniad da i’r
RSPB o sefyllfa bresennol adar yr ardd yng Nghymru a gweddill y DG. Am
fwy o wybodaeth ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch
Dydd Sadwrn olaf pob mis - Cerdded Trwy Hanes - Taith
gerdded ar dir gwastad o amgylch Llanrwst, yn para tua 2 awr ac yn cyflwyno
hanes y dref, wedyn bydd lluniaeth yn yr Elusendai. Croeso i Gwn a phlant.
Cyfarfod yn Amgueddfa Elusendy Llanrwst, Tan yr Eglwys, Llanrwst am 12.30pm.
£3 yr unigolyn. Ffôn: (01492) 642550
Am wybodaeth ar beth sy’n digwydd yn y theatr a’r sinema
cysylltwch â’r lleoliadau’n uniongyrchol:
Venue Cymru, Llandudno Ffôn: (01492) 872000 www.venuecymru.co.uk
Theatr Colwyn, Bae Colwyn Ffôn: (01492) 532668 www.theatrcolwyn.co.uk
Cineworld, Cyffordd Llandudno Ffôn: 0871 220 8000 www.cineworld.co.uk
